A allaf fynd ar gyrsiau nad ydynt yn cael eu rhedeg gan fy Nghyngor Gwirfoddol Sirol lleol?

Cynlluniwyd y rhaglen Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru er mwyn sicrhau bod pob un o’r cyrsiau yn y rhaglen yn rhedeg o fewn eich ‘rhanbarth’ o leiaf unwaith y flwyddyn, sy’n golygu na ddylech orfod teithio’n rhy bell i gael yr hyfforddiant y mae ei angen arnoch. Mae saith rhanbarth yng Nghymru, a phob un ohonynt yn cynnwys tri neu bedwar Cyngor Gwirfoddol Sirol - gellir gweld map o’r rhanbarthau ar yr hafan. Os byddwch yn sylwi eich bod wedi colli cwrs yn eich rhanbarth yr hoffech fynd arno neu os na fydd y dyddiadau’n addas, mae croeso i chi deithio i fod yn bresennol mewn un sy’n fwy addas i chi.