Ynglyn â
Mae Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru yn rhaglen genedlaethol newydd o hyfforddiant fforddiadwy ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol a ddarperir drwy bartneriaeth rhwng cynghorau gwirfoddol sirol (CGS), canolfannau gwirfoddolwyr (CG) a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae’r rhaglen yn cynnwys 54 o gyrsiau hyfforddi ac yn cwmpasu pob agwedd ar redeg grŵp gwirfoddol neu gymunedol – o sut i droi eich syniadau’n brosiect, i ddod o hyd i ffynhonnell ariannu, cyflogi pobl, rheoli eich arian a hyrwyddo’ch prosiect.
Mae’r hyfforddiant hwn sydd yn arbennig ar gyfer y sector gwirfoddol ar gael am £20* y person neu lai – sy’n golygu ei fod o fewn cyrraedd grwpiau gwirfoddol** boed fawr neu fach.
Bydd pob un o’r 54 cwrs yn rhedeg o leiaf unwaith ym mhob un o saith rhanbarth Cymru yn flynyddol. I archebu lle ar un o ddigwyddiadau hyfforddi Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru, cysylltwch â’r CGS sy’n cyflwyno’r cwrs hwnnw yn eich ardal.
I wneud ymholiadau cyffredinol ynghylch rhaglen Cyrsiau ar gyfer Cymunedau Cymru, cysylltwch â Lein Gymorth WCVA ar 0800 2888 329 neu help@wcva.org.uk.
* Cefnogir y cyrsiau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru dan y Cytundeb Partneriaeth
** Ffioedd ar gyfer mudiadau’r sector preifat a chyhoeddus ar gael drwy wneud cais i’r CGS sy’n darparu