Cyrsiau hyfforddi i helpu ‘uwchraddio sail gwybodaeth a sgiliau’ elusennau Cymru
Enillodd y rhaglen ganmoliaeth Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, am fod yn ‘fforddiadwy a hygyrch’, a’i chroesawu gan gyfranogwyr fel menter a oedd yn cryfhau'r sector yn ystod y cam ariannu ac a oedd o gymorth gydag anawsterau eraill oedd yn debygol o godi yn y dyfodol agos.
‘Bydd Cyrsiau ar gyfer Cymunedau o gymorth i sicrhau bod y sector yn gymwys i wynebu'r heriau bydd o'u blaenau yn y dyddiau ansicr sydd ohoni,’ medd Clive Curtis, Rheolwr Partneriaeth a Datblygiad Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol y Fro.
Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys ffurfioli mudiadau, trefnu pwyllgor, monitro a gwerthuso gwaith mudiad, manteisio i’r eithaf ar dechnoleg gwybodaeth a gweithio gydag eraill.
Ceir sesiynau hyfforddi hefyd mewn sgiliau cyfathrebu effeithiol, gweithio gyda’r sector statudol a gwirfoddoli, penodi ymddiriedolwyr ac aelodau pwyllgor rheoli, cyflogi a rheoli pobl, a chanfod a rheoli arian.
Meddai Kate Thomas, Rheolwraig Hyfforddiant WCVA: ‘Daeth yn amlwg i ni, er bod cyfoeth o hyfforddiant ar gael i’r sector, nid oedd fawr o gysondeb o ran darparu hyfforddiant craidd i gefnogi grwpiau gwirfoddol gyda’r gwaith o sefydlu a datblygu eu mudiad; cefnogi staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr; codi arian; rheoli eu hasedau; a darparu gwasanaethau gwell.’
Mewn anerchiad i gyfarfod blynyddol Gwasanaethau Gwirfoddol Cyngor Castell Nedd Port Talbot, dywedodd Rhodri Morgan fod y rhaglen yn ffrwyth y Cytundeb Partneriaeth i sicrhau bod ‘gwasanaethau o'r radd flaenaf’ ar gael i ddefnyddwyr ar draws Cymru.
Dywedodd fod y ffi o £20 neu lai y pen y sesiwn yn golygu eu bod o fewn cyrraedd mudiadau bach a mawr, ac yn dangos iddynt sut i droi eu syniadau’n brosiect, sut i gael gafael ar arian, cyflogi pobl, rheoli eu harian a hyrwyddo eu prosiect.
Dywedodd Heidi Bennett, Cyfarwyddwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-Bont ar Ogwr fod yr amserlen yn cynnig amrediad eang o bynciau hyfforddiant penodedig a oedd â'r nod o ddiwallu anghenion amrywiol grwpiau trydydd sector lleol mewn tameidiau bach, hawdd eu trin.
‘Mae'n cynnig cyfle gwych i fudiadau fanteisio ar hyfforddiant perthnasol, fforddiadwy o ansawdd yn lleol', ychwanegodd. 'Yn ei gyfanrwydd, nod y rhaglen yw uwchraddio sail gwybodaeth a sgiliau'r sector gan alluogi mudiadau i gwrdd â’u hanghenion datblygiad yn well – yn ogystal â rhai eu staff a'u gwirfoddolwyr.
‘A, gan fod Cynghorau Gwirfoddol Sirol yn darparu eu hyfforddiant yn lleol, mae'n lleihau i'r eithaf faint o amser y mae angen i bobl ei roi i fynychu. Mae hyn yn bwysig, oherwydd gall peidio â chael digon o oriau yn y dydd i wneud popeth fod yn rhwystr enfawr i fudiadau ac unigolion o ran blaenoriaethu hyfforddiant.'
Disgrifiodd Richard Davies, Swyddog Hyfforddiant Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, y rhaglen fel rhaglen fodiwlaidd gynhwysfawr oedd yn ymdrin â nifer o anghenion dysgu a datblygu sgiliau mudiadau'r sector gwirfoddol ar wahanol gamau yn eu datblygiad.
‘Ar adeg pan mae mudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol yn ei chael yn anodd yn ariannol, mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant fforddiadwy o ansawdd da ac - oherwydd ei strwythur a'i hamserlen glir - mae mudiadau yn awr yn gallu canfod cyrsiau sy'n diwallu eu hanghenion addysgol a chynllunio ymlaen llaw.’
Dywedodd John Watkin, Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych fod y cyrsiau yn rhoi cyfleoedd hyfforddi ymarferol i fudiadau'r trydydd sector, gyda thiwtoriaid o’r sector ac fe'u cefnogir gan hyfforddwyr arbenigol sy'n dod i mewn, er enghraifft, i weithio drwy faterion cyflogaeth.
‘Yn Sir Ddinbych, mae'r adborth oddi wrth y dysgwyr wedi bod yn ffantastig hyd yma ac rydym nawr yn gweld y dysgwyr hynny'n dychwelyd ar gyfer modiwlau eraill dan y rhaglen, arwydd clir fod y sesiynau dysgu'n berthnasol i'w gwaith naill ai fel gwirfoddolwyr neu aelodau staff cyflogedig.’
- Cyflwynir y cyrsiau undydd a hanner diwrnod gan aelodau o staff Cynghorau Gwirfoddol Sirol, a bydd rhai mudiadau’n dod i mewn i ddarparu hyfforddiant yn rhai o’r meysydd arbenigol a nodwyd. I gael gwybod mwy am y cyrsiau, dyddiadau a lleoliadau, ewch i www.cyrsiauigymunedau.org.uk